Back

Illyria: Pride and Prejudice

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI  

Gan Jane Austen 

Mewn corwynt cymdeithasol o ddawnsiau, ciniawau a swyddogion cymwys iawn, Lizzie Bennett a Fitzwilliam Darcy yw’r unig rai sy’n gall – ac maent yn casáu ei gilydd! Neu a ydyn nhw? 

Os mai eich syniad chi o Jane Austen yw drama wisgoedd, ffrogiau arddull ymerodrol a phartïon te, yna bydd yr addasiad disglair hwn, sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar y nofel wreiddiol, yn peri i chi newid eich meddwl. Dewch â phicnic a mwynhewch wrth i Illyria hogi’r crafangau a chyflwyno Jane Austen ar ei gorau bywiog, craff a phigog!

Yn addas i 5+

Amser Rhedeg: 2 awr 20 muned yn cynnwys egwyl o 20 muned

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£13 (£11) £9 Plant

Browse more shows tagged with:

Top