Back

CYFLWYNIAD ARTIST AM DDIM GYDA ELI ACHESON ELMASSRY

Bydd yr artist Eli Acheson Elmassry yn rhoi cyflwyniad oriel i gyd-fynd â’i harddangosfa Mediterranean. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys y syniadau a gyflwynir yn yr arddangosfa sy’n ymwneud ag ymfudo, achub, eitemau, ein perthynas â’r morlin a llawer mwy.

Bydd yr artist yn siarad am ei phroses ac ymarfer ei hun a sut mae ei phrofiad o fyw ac arddangos mewn gwahanol gyd-destunau (o Sawdi Arabia i Ogledd Cymru) wedi dylanwadu ar ei hymarfer.

Byddwn yn cwrdd yn yr oriel am 4yp, mae’r digwyddiad yn ddi-dâl ac er bod ‘na groeso i bob oed, bydd efallai yn fwy addas ar gyfer plant hŷn yn eu harddegau ac oedolion.

Cyfeiriwch yma am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa.

www.eliacheson.com        @elitheartist          #Mediterranean

Am ddim

Browse more shows tagged with:

Top