Back

Sweet Bean (an) (PG)

MWLDAN 2

Mae Sentaro yn rhedeg popty bach sy’n gwerthu dorayakis - crwst wedi llenwi â phast ffa coch melys (“ân”). Pan mae hen fenyw, Tokue, yn cynnig helpu yn y gegin mae’n ansicr ynglŷn â derbyn ei chynnig. Ond mae Tokue yn profi fod ganddi hud yn ei dwylo wrth baratoi “ân”.

Oherwydd ei rysáit cyfrinachol, mae’r busnes bach yn ffynnu’n gyflym... ac yn y cyfamser, mae Sentaro a Tokue yn agor eu calonnau i ddatgelu hen glwyfau.

IS-DEITLAU

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)

Top