Back

Ghazalaw

Crëir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru

Mae sain aruchel India a Chymru yn cyfuno yn Ghazalaw, cydweithrediad unigryw a chywrain sy’n dod ynghyd â Ghazal India a thraddodiad gwerin Cymru. Caiff yr ensemble 6 rhan ei arwain gan y cantor o Mumbai, Tauseef Akhar (harmoniwm, llais) a’r gantores-ysgrifennwr caneuon o Gricieth, Gogledd Cymru, Gwyneth Glyn (gitâr, llais). Gyda’i gilydd maent yn gwau ynghyd barddoniaeth serch eu dau draddodiad hynafol. Bydd Ashish Jha (tabla), Manas Kumar (fiolin), Georgia Ruth (telyn, llais) a Sanjoy Das (gitâr) yn ymuno â nhw.

Ar yr olwg gyntaf, ymddengys nad oes gan Gymru ac India berthynas agos, ond wrth gloddio ychydig yn ddyfnach, gwelwn fod canu gwerin Cymru a thraddodiadau Ghazal India yn deillio o ffurfiau barddoniaeth hynafol sy’n rhannu cysylltiadau syfrdanol. Mae ‘na gyswllt hanesyddol ieithyddol cryf, gan fod yr iaith Gymraeg ac iaith y Ghazal (wedi ei ganu yn Ghazalaw ynWrdw) wedi esblygu o sansgrit ac iaith Indo-Ewropeaidd gyffredin.

Mae’r ffurfiau barddonol hynafol yn sôn am golled a chariad rhamantaidd. Yn wreiddiol yn ffurf pennill Arabaidd o’r 7fed Ganrif, teithiodd ghazal trwy ddylanwadau sufi i feirdd canol oesol a wnaeth ei gofleidio, a rhoi eu stamp eu hunain arno. Yn draddodiadol yn troi o gwmpas cariad, hiraeth a chyfriniaeth, erbyn hyn cenir ghazals gan gerddorion o Iran, India a Phacistan. Mae’r paralelau gydag etifeddiaeth ieithyddol a diwydiannol Cymreig yn drawiadol, fel y mae lleisiau Tauseef a Gwyneth, sy’n gwau ynghyd cerddoriaeth, caneuon a cherddoriaeth y ddau fyd mewn modd diymdrech.

Mae Ghazalaw’n perfformio’n fyw yn brofiad rhyfeddol sy’n codi’r galon, yn ysbrydoliaeth nwyfus ac ysbrydol, sy’n cynnwys chwe cherddor rhagorol mewn un cyngerdd hyfryd.

 

Ar Daith Tachwedd 2015

 

7      Theatr Mwldan ABERTEIFI

8      Taliesin Arts Centre ABERTAWE

12    Theatr Brycheiniog ABERHONDDU

13    Y Tabernacl MACHYNLLETH

15    Royal Welsh College of Music and Drama CAERDYDD

19    Neuadd Dwyfor PWLLHELI

 

Wedi ei ddatblygu gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag Air India.

Browse more shows tagged with:

Top