Back

Amanda Jackson: To Build A Home @ Oriel Mwldan

Mae I Adeiladu Tŷ: Astudiaeth o bobl Lammas Pentref Eco Tir y Gafel a’r gymuned amgylchynol yn waith y ffotograffydd Amanda Jackson. Yn adnabyddus am ei phortreadaeth a’i hastudiaethau ffotograffig o gynaladwyedd, yn y gyfres hon mae Amanda’n parhau i archwilio pobl sy’n dewis troedio llwybr amgen. Mae’r themâu sy’n rhedeg trwy’r gyfres yn cynnwys rhyddid plentyndod, y ffordd mae pobl yn cysylltu â’r tir ac yn dibynnu ar y tir, a pha agwedd o dechnoleg sy’n chwarae rhan yn eu bywydau. Weithiau’n anghyson, yn aml yn ddigrif, mae’r ffotograffau hyn a gymerwyd gan ddefnyddio ffilm fformat canolig yn creu bytholrwydd wrth gipio symudiad modern cynyddol.

 

Browse more shows tagged with:

Top