Rydym wrth ein bodd bod Theatr Mwldan wedi ei henwi gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i bortffolio newydd o 71 sefydliad bydd yn derbyn cyllid refeniw o Ebrill 2011.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cyngor Celfyddydau wedi cynnal un o’r adolygiadau mwyaf manwl erioed o’r celfyddydau yng Nghymru, sydd wedi golygu y bydd 32 sefydliad yn colli cyllid. Mae’r adolygiad wedi cynnwys asesiad trwyadl o ansawdd a pherfformiad bob sefydliad, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Theatr Mwldan wedi derbyn asesiad rhagorol.

Mae’r Cyngor Celfyddydau wedi enwi Theatr Mwldan fel rhan o’i rwydwaith craidd newydd o 8 canolfan y celfyddydau, a ddisgrifiwyd fel sefydliadau enghreifftiol ar draws Cymru ac sydd wrth galon strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mae hwn wrth gwrs yn newyddion da i Aberteifi, ac yn gydnabyddiaeth genedlaethol wych o lwyddiant a rhagoriaeth Theatr Mwldan.

Yn Rhagfyr, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gobeithio cael gwybod faint o gyllid bydd yn derbyn o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y pryd hwnnw, disgwyliwn gadarnhad o’n dyraniad cyllid ni’n hunain.

Dilwyn Davies, Cyfarwyddwr, Theatr Mwldan

Ewch at gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru www.artswales.org am datganiad i’r wasg a manylion pellach.