Archebu Ar-lein
Archebwch ar-lein o flaen llaw gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd, 24 awr y dydd. Defnyddiwch ein tudalennau Beth Sy’ Mlaen (link) i ddod o hyd i’r digwyddiad priodol a dilynwch y cyfarwyddiadau syml ar y sgrîn. Gallwch weld y cynllun eistedd a bydd y system archebu tocynnau ar-lein yn cynnig y seddau gorau sydd ar gael i chi ar gyfer sioe neu ddangosiad penodol. Unwaith caiff taliad ei gadarnhau, byddwch yn derbyn ebost gyda chyfeirnod unigryw, sy’n cadarnhau bod eich seddau wedi eu cadw. Printiwch yr e-bost, neu gwnewch nodyn o’r cyfeirnod gan y bydd eisiau i chi ei ddangos i ni pan ydych yn casglu eich tocynnau o’r Swyddfa Docynnau. Yn ogystal, bydd eisiau i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad a phrawf statws / oed / cerdyn myfyriwr ac yn y blaen, ar gyfer consesiynau.
DS. Os oes gennych ofynion arbennig, er enghraifft, mynediad cadair olwyn, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01239 621200 gyda’ch cais(Oriau Agor y Swyddfa Docynnau yw 10yb – 8yh yn ddyddiol). Mae’n ddrwg gennym ond ni allwn dderbyn archebion ar-lein ar gyfer digwyddiad arbennig o fewn un awr o’i amser dechrau.
Archebu trwy ffonio ar 01239 621200 10yb – 8yh yn ddyddiol
Gallwch hefyd siarad â pherson go iawn! Gallwch dalu dros y ffôn gan ddefnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd. Mae gennym wasanaeth ffôn ateb tu allan i oriau swyddfa ac yn ystod cyfnodau prysur pan ni allwn ateb y ffôn. Os cewch y ffôn ateb, gadewch eich enw a’ch rhif ffôn a byddwn yn eich ffonio yn ôl. Os ydych yn teithio o bell yn unswydd er mwyn ymweld â ni, peidiwch â gadael nes i ni ddychwelyd eich galwad a chadarnhau bod eich seddau ar gael.
Archebu mewn person
Archebwch docynnau mewn person wrth ddesg ffrynt Theatr Mwldan. Derbyniwn arian parod, siec a cherdyn credyd/debyd.
Archebu trwy’r post
Os hoffech archebu trwy’r post, ffoniwch yn gyntaf i gadw’r seddau. Talwch drwy siec (yn daladwy i Theatr Mwldan) a chynhwyswch nodyn gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn, y nifer o docynnau sydd eisiau arnoch, ac enw, dyddiad ac amser y digwyddiad hoffech docynnau ar ei gyfer. Cynhwyswch amlen â’ch cyfeiriad a stamp arni os dymunwch i ni bostio eich tocynnau atoch, oni bai yr hoffech i ni eu cadw er mwyn i chi eu casglu.
Cyfeiriad Post:
Theatr Mwldan
Heol Clôs y Bath
Aberteifi
SA43 1JY

