Mynediad i’r Anabl

Mae gan Theatr Mwldan fynediad a chyfleusterau da ar gyfer pobl ag anableddau a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd ein staff Blaen Ty a Swyddfa Docynnau yn gwneud popeth y gallant i wneud eich ymweliad chi â’r Mwldan mor hawdd a phleserus ag sy’n bosib’. Peidiwch petruso cyn cysylltu â ni o flaen eich ymweliad os oes unrhyw beth yr hoffech drafod gyda ni.

Parcio

Mae’r prif faes parcio tua chefn Theatr Mwldan ac mae pum lle penodol ar gyfer parcio anabl gyda mynediad ar y gwastad i adeilad y theatr. Mae’r maes parcio yn un talu ac arddangos cyn 6pm.

Y Drysau Blaen

Mae gan brif fynedfa Theatr Mwldan ddrysau dwbl awtomatig sy’n agos allan tuag atoch wrth i chi gyrraedd. Unwaith eich bod chi y tu fewn i’r adeilad, mae ramp llydan a graddedig ar y llaw chwith yn eich cymryd at lefel y prif gyntedd lle gwelwch chi Gaffi Mwldan, y Swyddfa Docynnau, y Bar, Mwldan 1 (theatr/sinema), y Toiledau a Lifft i’r Cyntedd Uwch a’r Llawr 1af. Mae’r llawer wedi’i wneud o ddeunydd gwrthlithro gyda chanllawiau.

Maes Parcio/ Mynediad y Cefn

Mae gan y fynedfa o’r cefn o’r maes parcio cyhoeddus ag un drws awtomatig sy’n agor allan tuag atoch. Unwaith eich bod chi y tu fewn i’r adeilad, mae ramp graddedig yn eich cymryd i’r prif gyntedd a’r cyfleusterau a ddisgrifir uchod. Mae’r llawr wedi’i wneud o ddeunydd gwrthlithro.

Toiledau Hygyrch

Mae un ty bach hawdd ei gyrraedd ar bob lefel o’r adeilad. Mae ganddynt larwm tynnu cortyn os bydd angen cymorth. Cyn gynted ag y bo’r larwm yn cael ei ganu bydd aelod o staff ar gael i helpu.

Derbynfeydd a lobïau

Unwaith eich bod yn yr adeilad ac wrth y Swyddfa Docynnau fe welwch gadeiriau a byrddau ar gyfer cwsmeriaid y caffi a seddi dull bwth ochr draw ar gyfer ei ddefnyddio fel man aros.

Llechen yw defnydd y llawr yn yr ardal yma.

Noder os gwelwch yn dda nad oes gan Theatr Mwldan gadair olwyn i’w llogi ar hyn o bryd.

Lifft

Mae lifft yn y cyntedd ar gyfer pobl gydag anableddau a defnyddwyr cadeiriau olwyn sy’n galluogi mynediad rhwng yr Is Gyntedd, y Cyntedd Uwch a’r Llawr 1af. Mae hyn yn galluogi mynediad i Mwldan 2 (awditoriwm y theatr), Mwldan 3 (stiwdio) a’r oriel gelf weledol Oriel Mwldan. Mae gan y lifft fotymau penuchel.

Coridorau

Mae holl goridorau Theatr Mwldan yn hygyrch mewn cadair olwyn, yn ddigon llydan ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn i symud o gwmpas ac i bobl eraill fynd heibio. Maent yn rhydd o rwystrau ac o beryglon i bobl gydag anableddau gweld. Mae carped lliw porffor tywyll/canolig o lefel y Cyntedd Uwch i fyny.

Mae’r goleuo drwy’r adeilad yn gymysgedd o olau naturiol ac artiffisial ac mae wedi’i gynllunio i osgoi golau llachar ac amlinellau.

Theatrau

Mae ein dwy theatr - Mwldan 1 a Mwldan 2 - â chyfarpar clywed is-goch ac mae setiau pen ar gael am ddim oddi wrth ein Swyddfa Docynnau ar gyfer pob perfformiad.

Mae safleoedd arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer pob perfformiad a gellir rhag archebu’r rhain drwy ein Swyddfa Docynnau. Mae’r gwagleoedd cadair olwyn wedi’u hintegreiddio i mewn i’n cynllun seddau ni fel bo defnyddwyr cadeiriau olwyn yn medru eistedd gyda’u teuluoedd a’u cyfeillion. Disabled Access

Staff

Polisi Theatr Mwldan yw i hyfforddi pob aelod o staff mewn materion mynediad ac anabledd a bydd y tîm staff yn gwneud popeth y gallant i wneud eich ymweliad mor hawdd ag sy’n bosib’. Os bydd angen mwy o wybodaeth neu gymorth arnoch, yna da chi, cysylltwch â’r Rheolwr Blaen Ty, Becky Beynon-Lewis ar 01239 621200, or email becky@mwldan.co.uk

Rhaglen

Mae rhaglen Theatr Mwldan ar gael ar fformat print bras. Rhowch ganiad i’n Swyddfa Docynnau ni ar 01239 621200 i ofyn am gopi am ddim.