| Mae Theatr Mwldan yn cynnig dewis ardderchog o gyfleusterau
modern a chyfforddus i’w llogi gan drefnyddion cynadleddau,
cyfarfodydd, dosbarthiadau a pherfformiadau.
Mae
modd cael mynediad i’r holl gyfleusterau mewn cadair
olwyn hefyd.
Safleoedd
• Mwldan 1 awditoriwm 146 sedd
• Mwldan 2 awditoriwm 250 sedd
• Mwldan 3, ein gwagle stiwdio sydd â lle i fwyafrif
o 60.
• Mae gan Mwldan 3 lawr crog ac mae’n ddelfrydol
ar gyfer dosbarthiadau dawns/symudiad o tua 20 o bobl.
• Mae ardal y Cyntedd Uwch hefyd wedi bod yn boblogaidd
ar gyfer cynnal cyfarfodydd bychan anffurfiol a gellir ei
gau i ffwrdd oddi wrth bobl. Gall y gwagle yma gynnal tua
12 o bobl.
Cefnogaeth
Mae Theatr Mwldan yn cynnig cefnogaeth dechnegol ar gyfer
amrywiaeth eang o gynyrchiadau gan gynnwys cynadleddau a sioeau
byw.
Arlwyo
Mae Caffi Mwldan yn darparu gwasanaeth ardderchog gyda dewis
o fwydlen sy’n addas ar gyfer pob achlysur, ar gael
fel bwffe neu’n eistedd yn y caffi yn ddibynnol ar eich
anghenion a’r niferoedd. Mae ein cyfleusterau yn ein
galluogi ni i arlwyo ar ddull bwffe ar gyfer hyd at fwyafrif
o 150.
Cynadleddau
Mae Theatr Mwldan wedi cynnal nifer o gynadleddau yn llwyddiannus
yn ystod y dydd hyd yma, ac wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau
cenedlaethol sydd wëid mynegi eu bodlonrwydd gyda’r
cyfleusterau a’r gefnogaeth a ddarparwn. Rydym ni’n
gweithio’n agos gyda threfnyddion y digwyddiadau er
mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau ar gyfer cynadleddau
a digwyddiadau.
Dosbarthiadau cymunedol
Mae Mwldan 3 yn gartref i nifer o ddosbarthiadau drwy gydol
y flwyddyn, wedi’u trefnu gan y gymuned leol yn ystod
y dydd a chyda’r nos, yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos.
Rhaglennir cyfarfodydd a chynadleddau hefyd i mewn i Mwldan
3, ac ar ddyddiau Mercher ac Iau yn ystod y dydd bob wythnos
cedwir dyddiadau’n rhydd yn benodol ar gyfer cynadleddau
a chyfarfodydd i sefydliadau.
Am fwy o fanylion a phrisiau ar yr holl faterion sy’n
ymwneud â Llogi Cyfleusterau cysyllter â Louise
O’Neill ar 01239 623923 neu e-bost
louise@mwldan.co.uk
|