Swydd: Gwasanaethydd
Mae Theatr Mwldan yn edrych am Wasanaethydd Dydd Sul. Bydd y swydd yn cynnwys hebrwng a pheth gwaith bar. Rhaid bod pob ymgeisydd yn 16+ oed. Bydd y cyflog yn isafswm cyflog yn ôl eich grŵp oed. Bydd yr oriau yn cynnwys pob dydd Sul a 2/3 diwrnod ychwanegol yn ystod gwyliau’r ysgol. Y dyddiad dechrau bydd diwedd o Mai. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
I wneud cais, anfonwch CV neu lythyr at Becky Beynon-Lewis Theatr Mwldan, Heol Bath House, Aberteifi SA43 1JY becky@mwldan.co.uk 01239 621200 erbyn 14fed Mai.
Penodiad: Rheolwr/Rheolwraig Marchnata (Amser llawn, cytundeb parhaol)
Dymuna Theatr Mwldan, Aberteifi benodi Rheolwr / Rheolwraig Marchnata o’r 1af Gorffennaf 2008. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain gweithrediad marchnata Grŵp Mwldan. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad marchnata sylweddol, brwdfrydedd am y celfyddydau a phrofiad o feysydd creadigol a chyfryngau digidol. Bydd y gallu i weithio yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yn hanfodol.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 9 Mai am 10yb
Ffoniwch Louise O’Neill ar 01239 623923 neu e-bostiwch am Becyn Gwybodaeth sy’n cynnwys manylion am sut i wneud cais.
Mae Theatr Mwldan yn chwilio am Reolwr Technegol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno gwybodaeth dechnegol, profiad o berfformiadau byw a hanes profedig o sgiliau rheoli llwyddiannus. Bydd y Rheolwr Technegol yn arwain ein tîm technegol, ac yn gyfrifol am gyflawni rhaglen gyflwyno’r theatr a rheoli’r gwasanaethau technegol ar gyfer canolfan brysur sy’n cyflwyno mwy na 100 perfformiad byw a 1,700 dangosiad ffilm y flwyddyn. Am becyn gwybodaeth cyflawn, cysyllter â Louise O'Neill ar 01239 623923 neu e-bost louise@mwldan.co.uk
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 10am ar 19 Hydref 2007.
Clwb Mynediad
A oes eisiau man cadair olwyn arnoch yn yr awditoriwm? Ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw, yn ddall neu â nam ar eich golwg ac yn dymuno mwynhau’r sinema gyda is deitlau neu ddangosiadau Sain ddisgrifio. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad penodol? Os felly, ymunwch â Chlwb Mynediad Theatr Mwldan!
Mae Theatr Mwldan wedi ymrwymo i gynnig y mynediad gorau posibl i’w gwsmeriaid i gyd. Pwrpas y clwb mynediad yw i wella profiad ein cwsmeriaid trwy wneud eu hymweliad i’r Theatr mor gyfleus â phosibl.
Trwy rhoi eich rhif clwb mynediad wrth fwcio tocynnau gallwn fwrw golwg ar eich gwybodaeth mynediad. Bydd hyn yn cwtogi ar hyd y deliad ac yn golygu ni fydd eisiau i chi ateb yr un cwestiynau pob tro byddwch yn bwcio!
Mae ymuno â’r clwb yn rhad ac am ddim. Yr unig beth fydd yn ofynnol i chi wneud yw llenwi ffurflen. Os bydd eisiau cymorth arnoch i wneud hyn, rhowch wybod i ni. Mae ffurflenni ar gael yng Nghymraeg ac yn Saesneg ac ar fformat print safonol a phrint bras.
Am ffurflen cliciwch yma a nodwch eich manylion cyswllt i gyd.
Caffi Mwldan Medi 2007
Mae Caffi Mwldan ar gau. Mae Flin gennym am unrhyw anghyfleustra.
Swydd: Gwasanaethydd
Mae Theatr Mwldan yn edrych am Wasanaethydd Dydd Sadwrn.
Bydd y swydd yn cynnwys hebrwng a pheth gwaith bar. Rhaid bod pob ymgeisydd yn 16+ oed. Bydd y cyflog yn isafswm cyflog yn ôl eich grŵp oed. Bydd yr oriau yn cynnwys pob dydd Sadwrn a 2/3 diwrnod ychwanegol yn ystod gwyliau’r ysgol. Y dyddiad dechrau bydd 22 Medi. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
I wneud cais, anfonwch CV neu lythyr at Becky Beynon-Lewis Theatr Mwldan, Heol Bath House, Aberteifi SA43 1JY becky@mwldan.co.uk 01239 621200 erbyn 31st August.
Theatr Mwldan's myspace
A oeddech yn ymwybodol bod gan Theatr Mwldan myspace?… cliciwch yma i fwrw golwg arni ac i wylio hysbysluniau sinema, a ta beth, dylen ni fod yn ffrindie…….! www.myspace.com/theatrmwldan
Penodiad: Rheolwr Marchnata Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth, cytundeb naw
Mae Theatr Mwldan, Aberteifi yn recriwtio Rheolwr Marchnata Dros Dro (cytundeb naw mis dros dro) dros Gyfnod Mamolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain gweithrediadau Marchnata Theatr Mwldan yn ystod y cyfnod 24 Medi 2007 hyd at 1 Gorffennaf 2008. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad marchnata perthnasol a brwdfrydedd dros y celfyddydau. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y swydd hon yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Dyddiad cau: dydd Llun 30 Gorffennaf 2007 am 10am
Rhowch ganiad i Louise O’Neill ar 01239 623923 neu e-bostiwch louise@mwldan.co.uk am Becyn Gwybodaeth gan gynnwys manylion am sut i wneud cais.
A Latin Soul
I ddathlu llwyddiant parhaus prosiect Billy Cobham ac Asere, rydym ni’n falch i fedru cyhoeddi rhyddhau argraffiad DVD newydd cyfyngedig o ran niferoedd sydd ar werth, a ffilmiwyd yn y Mwldan ym mis Mawrth 2006, ac a gynhyrchwyd gan Creative Mwldan Creadigidol, canolfan gyfryngau’r Mwldan. Mae’r ffilm 45 munud o dan yr enw A Latin Soul, yn cynnwys ffilm o ymarfer unigryw, darnau allan o’r sioe fyw a chyfweliad gyda Billy Cobham sy’n rhoi mewnwelediad difyr i hanes anhygoel y cerddor byd-enwog wrth iddo ailddarganfod ei wreiddiau Lladin.
Mae A Latin Soul ar gael i’w brynu nawr o Swyddfa Docynnau’r Mwldan - naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ar 01239 621200. Pris yn £15 (TAW yn gynwysedig, a thâl postio), mae’n anrheg Nadolig perffaith i rywun arbennig sy’n hoffi cerddoriaeth, neu sydd ag atgofion arbennig o’r profiad hynod o weld Billy Cobham ac Asere yn fyw!
Rhywbeth Wedi Dal Eich Sylw?
Mae Oriel Mwldan yn falch i fod yn aelod o Cynllun Casglu Principality.
Mae Cynllun Casglu Principality yn wasanaeth credyd di-log sydd yn rhoi cymorth i chi brynu celf a chrefft gyfoes yng Nghymru.
Mae'r credyd di-log yn mynd o £50 i uchafswm benthyciad o £2,000. Dim ond 10% o flaendal sy'n rhaid i dalu i ddechrau a gallwch ddefnyddio'r credyd i'ch cynorthwyo i brynu gwaith celf a chrefft gwreiddiol gan artistiaid sydd yn dal i fyw.
Am fwy o wybodaeth, plis cysylltwch a Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan.
Gwirfoddoli ym Theatr Mwldan
Mae Theatr Mwldan yn dibynnu ar gwirfoddolwyr brwdfrydig i helpu mas blaen tŷ, ar dyddiau stwffio rhagleni, a hefyd yn y swyddfa.
Drwy wirfoddoli yn gyson ym Theatr Mwldan, cewch gylfe i:
•Gael mynediad am ddim i’r sinema a gostyngiadau ar docynnau i digwyddiadau byw!
•Gymdeithasu gyda phobl newydd a mwynhau barti Nadolig anhygoel y gwirfoddolwyr Theatr Mwldan!
•Gael hyfforddiant, profiad gwaith a geirda
Am fwy o wybodaeth rhowch ganiad ar 01239 621200
Llinellau a Haenau: Cyhoeddi Enwau'r Enillwyr
Cyhoeddwyd enwau enillwyr Gwobr y Bobl Llinellau a Haenau a Gwobr Stiwdio Recordio Fflach gerbron cynulleidfa lawn a gynhaliwyd yn Oriel Mwldan ar nos Fawrth (18fed).
Enillydd Gwobr y Bobl gwerth £300, a gyflwynwyd ar y noson gan Audrey Walker O.B.E., oedd Trudi Finch am ei ysgythru sychbwynt o’r enw ‘Red Hen’. Derbyniodd ei gwaith hyfryd y nifer fwyaf o bleidleisiau o’r cyhoedd wnaeth ymweld â ‘r arddangosfa.
Cyflwynodd Wynne Jones, o Stiwdio Recordio Fflach, Gwobr Fflach gwerth £100 i Gail Gauden am ei lluniad sercol ‘Sheltered’.
Mae’r arddangosfa Llinellau a Haenau, sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn Oriel Mwldan, wedi cael croeso da. Mae ystod a dyfnder y gwaith cafodd ei ddethol ar gyfer yr arddangosfa wedi llwyddo i ysgogi drafodaeth ynglŷn â’r hyn y gellid ei ystyried o bosibl yn lluniadau.
Mae’n dal yn bosibl i chi weld yr arddangosfa hon bydd yn siŵr o brocio’ch meddwl yn Oriel Mwldan, Aberteifi tan Ebrill 26ain.
Gwyl A-Beat-Teifi
Mae Gŵyl AMP a Theatr Mwldan ynghyd â Menter Aberteifi, yn falch i gyflwyno yr ail Ŵyl AMP A-Beat-Teifi / Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Byddwn yn dewis pedwar band/artist i frwydro yn y rownd derfynol i’w chynnal yn awditoriwm Mwldan 2 yn Theatr Mwldan. Y wobr gyntaf yw £200, yr ail wobr fydd £100 gyda’r ddau arall yn derbyn £50 yr un. Mae’n ddigwyddiad dwyieithog ar gyfer pob mathau o fandiau/artistiaid. Am ffurflen gais danfonwch amlen gyda stamp arni at Gŵyl A-Beat-Teifi - Brwydr y Bandiau, Gŵyl AMP, do Theatr Mwldan, Aberteifi SA43 1JY. Dyddiad cau am geisiadau yw 1 Mai 2006.
Rhagfyr 2005 Mwldan ymysg y pedair canolfannau orau yng Nghymru!
Rydym ni newydd ddarganfod fod Cynllun Croeso Cymru wedi cynnal arolwg cyfrinachol o holl theatrau Cymru. Aseswyd pob safle ar draws amrywiaeth o feini prawf, gan gynnwys trafod ymholiadau, cyfleusterau parcio, mynediad, croeso cyffredinol ac argraff gyffredinol. Rydym ni’n falch iawn i fedru dweud y gwnaethom ni gael sgôr o 89 allan o 100 posibl, ac i ni gael ein rhoi yn 4ydd allan o 34, dau bwynt i ffwrdd oddi wrth yr enillydd.
Hydref 2005 Ffigurau Mynediad yn Ymddyrchafu!
Ers agoriad y safle ar ei newydd wedd ym Mehefin 2004, mae ffigurau mynediad Theatr Mwldan wedi hedfan. Mae Theatr Mwldan yn derbyn mwy na 5,000 o ymweliadau bob wythnos ar gyfartaledd. Mae ffigurau mynediad y ddau awditoriwm yn y Theatr Mwldan newydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau. Mae llwyddiant uniongyrchol y prosiect wedi galluogi Theatr Mwldan i edrych tua'r dyfodol gyda hyder. Yn y flwyddyn lawn gyntaf ers cychwyn o'r newydd, mae'r Theatr Mwldan newydd wedi gweld...
Cyfanswm niferoedd mynychiadau mewn perfformiadau proffesiynol byw yn cynyddu o 154%.
Cyfanswm nifer y mynychiadau sinema yn cynyddu o 87%.
Cyfanswm nifer y mynychiadau mewn perfformiadau amatur a chymunedol byw yn cynyddu o 126%.
Medi 2005 Canolfan Gelfyddydau Berfformio Ranbarthol
Mae Theatr Mwldan wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar fel Canolfan Gelfyddydau Berfformio Ranbarthol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae?r rôl newydd strategol yma yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer cynhyrchu a chreu perfformiad, gan arbenigo mewn cerddoriaeth fyd-eang a thraddodiadol, drama a theatr gerddorol, a chyd-hyrwyddo a chyd-gynhyrchu teithiau o ragoriaeth artistig. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Medi 2005 Arddangosfa Picasso
Bu arddangosfa ddiweddar Oriel Mwldan o brintiadau gan Picasso o'r enw Histoire Naturelle ym mis Medi/Hydref 2005 yn llwyddiant ysgubol. Nododd gydweithrediad gydag Oriel yr Hayward yn Llundain, a greodd a theithiodd yr arddangosfa i orielau dethol yn y DU. Rydym nin falch iawn o fedru cadarnhau y bydd Oriel Mwldan yn mynd ymlaen i gyflwyno arddangosfa deithiol arall o'r Hayward gyda gwaith gan Goya yn cael ei arddangos ym mis Medi 2006.
I
ymuno a rhestr bostio Theatr Mwldan
AM DDIM a derbyn rhaglen lliw o holl
digwyddiadau y Mwldan tua bob dau fis, yna cliciwch
yma
Cliciwch
yma i tanysgrifio i e-restr Theatr Mwldan a dderbyn diweddariadau
wythnosol am sinema a ddigwyddiadau y Mwldan
|