|
Sut i ddod o hyd i ni…
1) Lleolir Theatr Mwldan yng
nghanol Aberteifi – trowch i’r chwith ar ben gogleddol
y Stryd Fawr/Pendre. Mae digon o le i barcio y tu ôl
i’r theatr ar gyfer ceir a bysiau. Mae parcio am ddim
wedi 6pm.
2) O Gastell Newydd Emlyn cymrwch
y A484 i Aberteifi, unwaith y cyrhaeddwch y prif gylchdro
yn Aberteifi, ewch yn syth drosodd tuag at ganol y dref. Ewch
i 6.
3) O Aberystwyth, parhewch
ar hyd y A487 heibio Tesco hyd nes i chi gyrraedd y cylchdro,
cymrwch y 3ydd troad oddi arno. Ewch i 6.
4) O Ddinbych-y-Pysgod cymrwch
y A478 i Aberteifi, unwaith i chi gyrraedd y cylchdro cymrwch
y 3ydd troad oddi arno dros y bont newydd, ar y cylchdro nesaf
cymrwch y troad 1af oddi ar y cylchdro. Ewch i 6.
5) O Hwlffordd cymrwch y A487
i Aberteif, unwaith eich bod wrth y clychdro cymrwch yr 2il
droad oddi ar y cylchdro dros y bont newydd, ar y cylchdro
nesaf cymrwch y troad 1af oddi ar y cylchdro. Ewch i 6.
6) Bydd yr ysbyty ar eich chwith.
Ewch yn syth ar hyd Heol y Prior tuag at Neuadd y Dref (gyda’r
cloc). Trowch i’r dde ar y Stryd Fawr, a chymrwch y
troad cyntaf i’r chwith wedi hynny (gyda siop sglodion
a physgodyn ar y gornel) ac ewch lawr y rhiw. Mae Theatr Mwldan
ar waelod y rhiw.
Parcio Ceir
Mae maes parcio estynedig yn union y tu ôl i Theatr
Mwldan. Mae maes parcio tymor byr hefyd yr ochr draw i Theatr
Mwldan y gellid mynd ato drwy ddilyn yr heol o gwmpas o flaen
y theatr, tu ôl i Neuadd Tref Aberteifi a Chanolfan
Siopa Teifi. Mae’n hynod gyfleus a thua 100 llath o
gerdded o’r theatr, felly a wnewch chi ystyried defnyddio’r
maes parcio arall yma ar adegau prysur rhag cael eich siomi!
Gadewch ddigon o amser i barcio wrth fynychu digwyddiad. Diolch
am eich cydweithrediad.
|