theatr mwldan cardigan
hanes mwldan 

Hanes Mwldan

Old Theatr Mwldan Theatr Mwldan 2005 New Theatr Mwldan

Fersiwn Cymraeg yn ddilyn yn fuan

Thank you to our sponsors

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|

Ym 1995 lansiwyd Cynllun Datblygu i newid ac ymestyn y theatr bresennol i fod yn safle a fyddai’n cynnig rhywbeth ar gyfer y rhaglen a’r gynulleidfa oedd yn datblygu. Wedi rhai blynyddoedd, daeth y prosiect i fodolaeth gyda chyllid o £7 miliwn a ariannwyd ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Cylch, Bwrdd Croeso Cymru a Theatr Mwldan ei hun a’r gymuned mae’n ei gwasanaethu. Cwblhawyd Cynllun Datblygu Theatr Mwldan ym mis Mehefin 2004.

Mae’r Cynllun wedi cynnig gwelliant anferth yn y math o gyfleusterau sydd ar gael, y lefel o weithgarwch ac ansawdd y profiad ar gyfer cwsmeriaid. Mae’r safle newydd yn cynnwys dau awditoriwm theatr (seddau i 250 a 146), stiwdio ymarfer, gwagle arddangos celfyddyd weledol, ardal blaen ty gwell a chyfleusterau arlwyo a gweinyddol. Lansiodd Theatr Mwldan ganolfan aml-gyfryngol newydd hefyd sef, Creative Mwldan Creadigidol, yn y cyn-adeliadau fferm a adnewyddwyd ac ymestynnwyd ar safle’r ochr draw i adeilad y theatr.

Edrych tua’r dyfodol

Ers agoriad y safle ar ei newydd wedd ym Mehefin 2004, mae ffigurau mynediad Theatr Mwldan wedi hedfan. Mae Theatr Mwldan yn derbyn mwy na 5,000 o ymweliadau bob wythnos ar gyfartaledd. Mae ffigurau mynediad y ddau awditoriwm yn y Theatr Mwldan newydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau. Mae llwyddiant uniongyrchol y prosiect wedi galluogi Theatr Mwldan i edrych tua’r dyfodol gyda hyder. Yn y flwyddyn lawn gyntaf ers cychwyn o’r newydd, mae’r Theatr Mwldan newydd wedi gweld…

cyfanswm niferoedd mynychiadau mewn perfformiadau proffesiynol byw yn cynyddu o 154%.

cyfanswm nifer y mynychiadau sinema yn cynyddu o 87%.

Cyfanswm nifer y mynychiadau mewn perfformiadau amatur a chymunedol byw yn cynyddu o 126%.

Canolfan Gelfyddydau Berfformio Ranbarthol

Mae Theatr Mwldan wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar fel Canolfan Gelfyddydau Berfformio Ranbarthol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r rôl newydd strategol yma yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer cynhyrchu a chreu perfformiad, gan arbenigo mewn cerddoriaeth fyd-eang a thraddodiadol, drama a theatr gerddorol, a chyd-hyrwyddo a chyd-gynhyrchu teithiau o ragoriaeth artistig. Cliciwch yma am fwy o fanylion.


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|