|
Mae Theatr Mwldan yn gartref i
wyliau drwy gydol y flwyddyn
Ym mis Ionawr
a Chwefror ...
gwyl ffilm MWLDAN film festival yn
dathlu’r cyfoeth i sinema a’r gorau o ffilmiau rhyngwladol
cyfredol am bythefnos ym mis Ionawr a Chwefror. Mae’r ŵyl
bellach yn ei hunfed blwyddyn ar ddeg ac mae wedi gweld cynulleidfaoedd
yn cynyddu o 126% anferthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bwriad
yr ŵyl yw i ddathlu cyfoeth byd y ffilm tra’n cael ein diddanu,
cynhyrfu a’n goleuo gan y gorau ym myd y sinema o gartref
a thramor.
Ym mis Mawrth ...
Gŵyl Cymru un Byd (WOW!) yw’r
ŵyl ryngwladol sy’n ddathliad o ffilmiau a’r
pwer unigryw sydd ganddynt i gynhyrfu pobl, i’w hysbrydoli
ac yn y pendraw i drawsnewid eu bywydau am byth.
Mae Gŵyl WOW! sy’n cael ei redeg gan Gyfarwyddwr yr ŵyl
David Gillam, yn teithio ar draws Cymru ac yn ymddangos yn Theatr
Mwldan ym mis Mawrth. Mae WOW! yn cynnwys amrywiaeth wych o’r
gorau mewn ffilmiau o bedwar ban y byd ar gyfer eich dileit a’r
digrifwch.
Gŵyl Stori’r Ddraig Biws Dyma ddathliad o’r
stori yn ei holl ffurfiau, gyda golwg leol, genedlaethol a rhyngwladol
ar y stori am ddeng niwrnod ym mis Mawrth.
Hyrwyddir Gŵyl Stori’r Ddraig Biws gan theatr Mwldan, Llyfrau
Parthian a Menter Aberteifi. Mae’r rhanfwyaf o’r digwyddiadau
yma’n digwydd yn y Mwldan ond cadwch lygad mas am ddigwyddiadau
stori a llyfr ar draws y dref.
Ym mis Mai ...
Gŵyl Gerddoriaeth AMP (Celfyddydau/Cerddoriaeth/Perfformiadau)
dyma sefydliad cymunedol leol newydd sy’n gysegredig
i hyrwyddo’r celfyddydau, cerddoriaeth a pherfformiad, wedi’i
gyflwyno mewn partneriaeth â Theatr Mwldan. Dros ŵyl y banc
ym mis Mai, mae AMP yn cyflwyno perfformiadau byw gan sawl artist
o Gymru, artistiaid rhyngwladol a lleol sy’n rhychwantu amrywiaeth
eang o arddulliau cerddorol. Mae AMP hefyd yn trefnu sawl gweithdy
am ddim drwy gydol penwythnos yr ŵyl.

|