theatr mwldan cardigan
gwybodaeth archebu


CASTRADIVA Mwldan 1 SWYDDFA DOCYNNAU

Gwybodaeth Archebu

SWYDDFA DOCYNNAU 01239 621200
Theatr Mwldan, Aberteifi SA43 1JY

I weld y cynllun seddau ar gyfer Mwldan 1 a Mwldan 2 Cliciwch ymaI weld y cynllun seddau ar gyfer Mwldan 1 a Mwldan 2 Cliciwch yma

I ymuno a rhestr bostio Theatr Mwldan AM DDIM a derbyn rhaglen lliw o holl digwyddiadau y Mwldan tua bob dau fis, yna cliciwch ymaI ymuno a rhestr bostio Theatr Mwldan AM DDIM a derbyn rhaglen lliw o holl digwyddiadau y Mwldan tua bob dau fis, yna cliciwch yma

I ymuno a rhestr e-bostio Theatr Mwldan AM DDIM a derbyn diweddariad o digwyddiadau y Mwldan drwy e-bost tua bob tair wythnos, yna cliciwch yma Cliciwch yma i tanysgrifio i e-restr Theatr Mwldan a dderbyn diweddariadau wythnosol am sinema a ddigwyddiadau y Mwldan

Archebu Tocynnau



Archebwch eich tocynnau nawr drwy e-bost! Cliciwch yma

Gallwch archebu’ch tocynnau ar gyfer Sioeau Byw a Sinema:
• Dros y ffôn 01239 621200 (Visa, Delta, Mastercard, Solo a Switch)
• Wyneb yn wyneb wrth y ddesg (arian, siec neu gerdyn debyd/credyd)
• Drwy’r post (siec yn daladwy i Theatr Mwldan ac amlen wedi’i stampio’n barod)
• Drwy e-bost (noder – dim ond neilltuadau sy’n bosibl drwy e-bost. Bydd angen i chi ffonio i gadarnhau drwy daliad am eich archebion a e-bostiwyd).

Prisiau tocynnau a gostyngiadau

Pris tocyn i’r sinema yw £4.90 (Oedolion) a £3.80 (Plant 14 mlwydd oed ac iau).
Fe’ch cynghorir i nodi dosbarthiad y ffilm rhag siomi (cliciwch yma am fanylion y graddfeydd dosbarthu i’r ffilmiau).

Mae prisiau tocynnau i’r sioeau byw yn amrywio ac yn cael eu dangos yn erbyn pob digwyddiad ar restr y rhaglen. Mae prisiau gostyngol am ddigwyddiadau byw (dangosir mewn cromfachau lle bo’n berthnasol) ar gael os ydych chi’n blentyn, myfyriwr amser llawn, person hyn, anabl neu wedi’ch cofrestru’n ddi-waith. Dangoswch brawf o’ch statws os gwelwch yn dda.

Gellir neilltuo seddau ar gyfer digwyddiadau byw heb daliad ond cânt eu cadw am 7 niwrnod pan fyddant yn cael eu rhyddhau eto i’w gwerthu ymlaen! Rhaid gwneud taliad yn syth ar gyfer archebion o fewn 7 niwrnod i sioe. Nid yw’n bosib’ neilltuo tocynnau heb daliad ar gyfer dangosiadau sinema, heblaw drwy e-bost fwy na 24 awr cyn amser y perfformiad.

Sut i’n cyrraedd ni / Parcio

Lleolir Theatr Mwldan yng nghanol Aberteifi – trowch i’r chwith ar ben gogleddol y Stryd Fawr / Pendre (dilynwch yr
arwyddion brown). Mae Theatr Mwldan yn union o’ch blaen. Cymrwch yr heol sy’n rhedeg ar hyd ochr y theatr sy’n arwain at y maes parcio tu cefn i’r theatr ar gyfer ceir a bysiau. Mae parcio am ddim wedi 6pm.

Cliciwch yma am FAP a mwy o gyfarwyddiadau

Amserau Agor y Swyddfa Docynnau

10am – 8pm dydd Llun – dydd Sul (heblaw 25 a 26 Rhagfyr)
Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael y tu allan i oriau’r swyddfa a phan fo’r swyddfa docynnau’n brysur. Gadewch neges, da chi, ac fe wnawn ni ffonio nôl.

Bar

Mae’r bar trwyddedig y theatr ar agor 30 munud cyn bob dangosiad sinema a sioe fyw, yn gwerthu pop corn, diodydd meddal a losin.

Rydym yn cadw’r hawl i newid y rhaglen oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni.

Mynediad Anabl

Mae gan Theatr Mwldan fynediad da ar gyfer pobl ag anableddau, defnyddwyr cadeiriau olwyn ac ati. Mae gwagleoedd i gadeiriau olwyn ar gael ar gyfer pob perfformiad, rhowch wybod i ni wrth archebu. Mae cyfleusterau toiledau ar gael ar gyfer pobl sydd ag anableddau. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar Fynediad i’r Anabl.

cliciwch yma i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd

Dalen - nodwch y safle yma

THEATR MWLDAN, ABERTEIFI SA43 1JY
01239 621200 SWYDDFA DOCYNNAU

Mae'r holl fanylion yn gywir ar yr adeg pan fo'r rhaglen yn mynd i'r wasg.
Rydym ni’n cadw'r hawl i newid y rhaglen oherwydd amglychiadau y tu hwnt i'n
rheolaeth.


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|