Clwb Mynediad
A oes eisiau man cadair olwyn arnoch yn yr awditoriwm? Ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw, yn ddall neu â nam ar eich golwg ac yn dymuno mwynhau’r sinema gyda is-deitlau neu ddangosiadau Sain ddisgrifio. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad penodol? Os felly, ymunwch â Chlwb Mynediad Theatr Mwldan!
Mae Theatr Mwldan wedi ymrwymo i gynnig y mynediad gorau posibl i’w gwsmeriaid i gyd. Pwrpas y clwb mynediad yw i wella profiad ein cwsmeriaid trwy wneud eu hymweliad i’r Theatr mor gyfleus â phosibl.
Trwy rhoi eich rhif clwb mynediad wrth fwcio tocynnau gallwn fwrw golwg ar eich gwybodaeth mynediad. Bydd hyn yn cwtogi ar hyd y deliad ac yn golygu ni fydd eisiau i chi ateb yr un cwestiynau pob tro byddwch yn bwcio!
Mae ymuno â’r clwb yn rhad ac am ddim. Yr unig beth fydd yn ofynnol i chi wneud yw llenwi ffurflen. Os bydd eisiau cymorth arnoch i wneud hyn, rhowch wybod i ni. Mae ffurflenni ar gael yng Nghymraeg ac yn Saesneg ac ar fformat print safonol a phrint bras.
Am ffurflen cliciwch yma a nodwch eich manylion cyswllt i gyd.
Sinema Hygyrch yn y Mwldan
Bellach gall pobl fyddar a’r rhai trwm eu clyw, pobl ddall a’r rhai sydd â nam ar eu golwg fwynhau hud byd y sinema yn Theatr Mwldan lle ceir dangosiadau gydag isdeitlau a disgrifiadau clywedol!
Sut ydych chi’n gwybod pa ffilmiau sydd ag isdeitlau a disgrifiad clywedol?
Defnyddir y logos canlynol i nodi’r ffilmiau sydd ag isdeitlau a disgrifiad clywedol:

Os oes logo disgrifiad clywedol wrth ymyl y ffilm, yna bydd pob dangosiad o’r ffilm honno yn cynnwys disgrifiad clywedol.
Cynhelir dangosiadau arbennig ar gyfer isdeitlau. Dynodir unrhyw ddangosiadau sydd ag isdeitlau â’r logo hwn.
Gallwch weld beth sydd ymlaen mewn sawl ffordd sy’n addas i chi!
Papurau lleol Hysbysebion mewn papurau newydd lleol.
Gallwch ymuno ag e-restr am ddim fydd yn anfon e-bost atoch yn rhoi gwybod i chi pa ffilmiau sy’n cael eu dangos. I ymuno â’r rhestr hon, ewch i subtitles@yourlocalcinema.com
neu
Ffôn 0845
056 9824 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos,
Ffôn Testun/ typetalk 18001 0845 056 9824.
SMS/ neges destun 0793 1341 377 (cyfradd arferol ffôn
symudol).
Ffacs 0845 056 9824
E-bwletin I derbyn ebwletin wythnosol ewch i subtitles@yourlocalcinema.com
Ebost ad@yourlocalcinema.com
Mae bwletin ar sinema â disgrifiadau clywedol ar gael hefyd: ’gwefan lafar/talking website’ a ‘Y we dros y ffôn’, dim ond i chi ffonio 0845 056 9824 (cost galwad leol), neu anfon e-bost i ad@yourlocalcinema.com
Os hoffech fwy o fanylion am ffilmiau sydd ag isdeitlau a disgrifiadau clywedol, os gwelwch yn dda, ewch i www.yourlocalcinema.com
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut y daeth y gwasanaethau hyn i fod, ewch i www.access-cinema.com
Does dim yn haws na derbyn gwybodaeth reolaidd am y ffilmiau sy’n cael eu dangos yn eich sinema leol, felly mae pob croeso i chi ddod yma i fwynhau!
Dyddiadau ac amserau ffilmiau gyda is-deitlau yn Theatr Mwldan ym mis Mai.
27 DRESSES (12A) |
Mai 6 @ 8.00 |
THE 11TH HOUR (PG) |
Mai 7 @ 6.00 |
IRON MAN (12A) |
Mai 13 @ 5.40 |
STEP UP 2: THE STREETS (PG) |
Mai 18 @ 4.00 |
LEATHERHEADS (PG) |
Mai 19 @ 6.20 |
HORTON HEARS A WHO (U) |
Mai 27 @ 12.30 |
MEET THE SPARTANS (12A) |
Mai 28 @ 7.00 |
Mae gan pob ffilm a restrir uchod sain-ddisgrifio ac atgyfnerthiad clywedol ym mhob dangosiad.
27 Dresses, 11th Hour, Step up 2, Leatherheads, Horton Hears a Who, Meet the Spartans, My Blueberry Nights, The Accidental Husband, Nim’s Island, Forgetting Sarah Marshall, What happens in Vegas, The Spiderwick Chronicles.
Atgyfnerthiad clywedol ar gael ym mhob ffilm trwy gydol mis Mai.
Mae’r prosiect hwn wedi ei noddi gan Uned Loteri Gyfalaf Cyngor y Celfyddydau Cymru.
Mynediad i’r Anabl
Mae gan Theatr Mwldan fynediad a chyfleusterau da ar gyfer
pobl ag anableddau a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd ein
staff Blaen Ty a Swyddfa Docynnau yn gwneud popeth y gallant
i wneud eich ymweliad chi â’r Mwldan mor hawdd
a phleserus ag sy’n bosib’. Peidiwch petruso cyn
cysylltu â ni o flaen eich ymweliad os oes unrhyw beth
yr hoffech drafod gyda ni.
Parcio
Mae’r prif faes parcio tua chefn Theatr Mwldan ac mae
pum lle penodol ar gyfer parcio anabl gyda mynediad ar y gwastad
i adeilad y theatr. Mae’r maes parcio yn un talu ac
arddangos cyn 6pm.
Mynediad i’r adeilad
Y Drysau Blaen
Mae gan brif fynedfa Theatr Mwldan ddrysau dwbl awtomatig
sy’n agos allan tuag atoch wrth i chi gyrraedd. Unwaith
eich bod chi y tu fewn i’r adeilad, mae ramp llydan
a graddedig ar y llaw chwith yn eich cymryd at lefel y prif
gyntedd lle gwelwch chi Gaffi Mwldan, y Swyddfa Docynnau,
y Bar, Mwldan 1 (theatr/sinema), y Toiledau a Lifft i’r
Cyntedd Uwch a’r Llawr 1af. Mae’r llawer wedi’i
wneud o ddeunydd gwrthlithro gyda chanllawiau.
Maes Parcio/ Mynediad y Cefn
Mae gan y fynedfa o’r cefn o’r maes parcio cyhoeddus
ag un drws awtomatig sy’n agor allan tuag atoch. Unwaith
eich bod chi y tu fewn i’r adeilad, mae ramp graddedig
yn eich cymryd i’r prif gyntedd a’r cyfleusterau
a ddisgrifir uchod. Mae’r llawr wedi’i wneud o
ddeunydd gwrthlithro.
Toiledau Hygyrch
Mae un ty bach hawdd ei gyrraedd ar bob lefel o’r adeilad.
Mae ganddynt larwm tynnu cortyn os bydd angen cymorth. Cyn
gynted ag y bo’r larwm yn cael ei ganu bydd aelod o
staff ar gael i helpu.
Derbynfeydd a lobïau
Unwaith eich bod yn yr adeilad ac wrth y Swyddfa Docynnau
fe welwch gadeiriau a byrddau ar gyfer cwsmeriaid y caffi
a seddi dull bwth ochr draw ar gyfer ei ddefnyddio fel man
aros.
Llechen yw defnydd y llawr yn yr ardal yma.
Noder os gwelwch yn dda nad oes gan Theatr Mwldan gadair
olwyn i’w llogi ar hyn o bryd.
Lifft
Mae lifft yn y cyntedd ar gyfer pobl gydag anableddau a defnyddwyr
cadeiriau olwyn sy’n galluogi mynediad rhwng yr Is Gyntedd,
y Cyntedd Uwch a’r Llawr 1af. Mae hyn yn galluogi mynediad
i Mwldan 2 (awditoriwm y theatr), Mwldan 3 (stiwdio) a’r
oriel gelf weledol Oriel Mwldan. Mae gan y lifft fotymau penuchel.
Coridorau
Mae holl goridorau Theatr Mwldan yn hygyrch mewn cadair olwyn,
yn ddigon llydan ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn i symud
o gwmpas ac i bobl eraill fynd heibio. Maent yn rhydd o rwystrau
ac o beryglon i bobl gydag anableddau gweld. Mae carped lliw
porffor tywyll/canolig o lefel y Cyntedd Uwch i fyny.
Mae’r goleuo drwy’r adeilad yn gymysgedd o olau
naturiol ac artiffisial ac mae wedi’i gynllunio i osgoi
golau llachar ac amlinellau.
Theatrau
Mae ein dwy theatr - Mwldan 1 a Mwldan 2 - â chyfarpar
clywed is-goch ac mae setiau pen ar gael am ddim oddi wrth
ein Swyddfa Docynnau ar gyfer pob perfformiad.
Mae safleoedd arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar
gyfer pob perfformiad a gellir rhag archebu’r rhain
drwy ein Swyddfa Docynnau. Mae’r gwagleoedd cadair olwyn
wedi’u hintegreiddio i mewn i’n cynllun seddau
ni fel bo defnyddwyr cadeiriau olwyn yn medru eistedd gyda’u
teuluoedd
a’u cyfeillion. 
Staff
Polisi Theatr Mwldan yw i hyfforddi pob aelod o staff mewn
materion mynediad ac anabledd a bydd y tîm staff yn
gwneud popeth y gallant i wneud eich ymweliad mor hawdd ag
sy’n bosib’. Os bydd angen mwy o wybodaeth neu
gymorth arnoch, yna da chi, cysylltwch â’r Rheolwr
Blaen Ty, Becky Beynon-Lewis ar 01239 621200, or email becky@mwldan.co.uk
Rhaglen
Mae rhaglen Theatr Mwldan ar gael ar fformat print bras. Rhowch
ganiad i’n Sywddfa Docynnau ni ar 01239 621200 i ofyn
am gopi am ddim.
|