theatr mwldan cardigan
amdanom ni

Croeso i Theatr Mwldan

Theatr Mwldan Performance Oriel Mwldan Gallery Theatr Mwldan Cardigan

Yng nghanol gorllewin Cymru, mae gan Theatr Mwldan gymaint i’w gynnig i chi!

Profiadau sinema hudolus… Perfformiadau byw anhygoel… a rhywbeth i bawb.

Gyda chyfleusterau ardderchog ar gyfer sinema, gallwch wylio’r ffilmiau diweddaraf a’r gorau oll o sinema fyd-eang. Dewiswch i amrywiaeth gwych o sioeau byw…yn ogystal mae oriel gelf weledol, caffi a bar!

Wedi bod drwy brosiect ailddatblygu gwerth £7 miliwn yn ddiweddar, mae Theatr Mwldan bellach yn cynnig dau awditoriwm arbennig, y ddau’n cynnig perfformiadau byw a sinema, a seddau cyfforddus, sgriniau mawr a sain Dolby Digital. Mae cyfleusterau newydd eraill yn cynnwys gwagle stiwdio, cyntedd mawr newydd gan gynnwys caffi a bar yn ogystal â Swyddfa Docynnau ac Oriel.

Dros flwyddyn, byddwn yn cyflwyno tua 100 sioe byw, 1,700 o ddangosiadau sinema ac rydym ni’n cael mwy na 80,000 o fynediadau!

Mae perfformiadau diweddar wedi cynnwys:

Cerddoriaeth Fyd-eang a Thraddodiadol ….Eliza Carthy, Juan Martin, Julie Felix, Bellowhead, Sharon Shannon
Drama …Illyria, Red Shift, Tara Arts, Market Theatre of Johannesburg, Theatr Genedlaethol Cymru
Cerddoriaeth Glasurol… Nikolai Demidenko, London Mozart Players
Adloniant…. Mike Doyle, Shan Cothi, Barry Cryer, Peter Karrie
Comedi….Rob Newman, Pete McCarthy, Ridiculusmus, John Hegley
Opera…Welsh National Opera, Mid Wales Opera, Opera Della Luna
Arddangosfeydd Picasso, Goya, artistiaid lleol a chenedlaethol
Dawns… Ballet Russe, Diversions, Jaleo, Andrea Servera
Sioeau’r teulu….Digwyddiadau llenyddol…Gwyliau Ffilm… Sinema Byd-eang…yn ogystal â’r ffilmiau mawr diweddara’ … Wallace, Gromit, Harry Potter, the Lion, the Witch and the Wardrobe!

Nawr eich bod chi’n gwybod pwy y’n ni, cymrwch sbec fanylach drwy ein Beth sy’ ’Mlaen? Ac ymunwch â’n rhestr Bostio AM DDIM ac e-restr.

Am Hanes Theatr Mwldan cliciwch yma.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i’r Mwldan yn y dyfodol agos.


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|