Back

LE TRIO JOUBRAN

Cyd-Gynhyrchiad LMD Productions | Theatr Mwldan 

 

Ar Daith: 2 – 10 Mai 2009

 

Samir Joubran oud

Wissam Joubran oud

Adnan Joubran oud

Yousef Hbeisch percussion

 

Mae’n bleser gennym groesawu yn ôl i’r Mwldan eleni y brodyr ifainc o Balesteina, meibion i feistr ar y grefft o wneud oud o ddinas Feiblaidd Nasareth, ac unig driawd oud y byd. Yn eu hail ymweliad â Chymru, mae’r offerynnwr taro Yousef Hbeisch yn ymuno â nhw, gan ddod â dimensiwn newydd i’r gerddoriaeth. Gyda’u chwarae fyrfyfyr dawnus, sy’n cyffwrdd â’r galon ac sy’n dod â thirwedd, diwylliant â thrigolion Palesteina’n fyw, mae’r triawd yn consurio harmoni a melyster, dyfnder a gorfoledd. Mae eu repertoire yn cynnwys creadigaethau gwreiddiol a byrfyfyr godidog o’r maqâms traddodiadol a’u dehongliadau cynnil. Mae’n berfformiad llwyfan aruthrol. Peidiwch â’i golli.

 

www.letriojoubran.com

 

Ar Daith I:

Aberystwyth Arts Centre

Cardigan Theatr Mwldan

Cardiff St David’s Hall

Pontardawe Arts Centre

Milford Haven Torch Theatre

Caernarfon Galeri

Harlech Theatr Harlech

Brecon Theatr Brycheiniog

Browse more shows tagged with:

Top