Back

Eugenio Bennato and Taranta Power

GYNHYRCHIAD TEITHIOL THEATR MWLDAN 

 

Ar Daith 12 - 23 Hydref 2005

 

Mae’r band hynod wych yma o Napoli yn em guddiedig i raddau helaeth, caiff ei arwain gan y talentog Eugenio Bennato, cerddor, cyfansoddwr ac astudiwr cerddoriaeth. Am bron i 30 mlynedd, mae Bennato wedi bod yn casglu ac adfywio’r diwyddliant cerddorol traddodiadol o dde’r Eidal. Yno mae wedi darganfod pwer anhygeol y Taranta, dawns ddefodol sydd, mae’n debyg, yn deillio o tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl ac mae’n fynegiad elfennol o fydysawd, rhythm, myth a hanes.

Yn ôl y chwedl roedd tarantolati yn cymryd eneidiau pobl drosodd – drwy gnoiad y pry’ copyn tarantwla – gellid ei wella neu ei fwrw allan drwy ddawnsio’r tarantella. Mae’r defodau yma, yn baganaidd a Christnogol yn dal i fodoli mewn amrywiaeth o ffyrdd yn y de gwledig. Maent wedi ysbrydoli adfywiad fwyfwy amlwg, gydag Eugenio Bennato ar flaen y gad yn rhannol, ac yn cael ei gefnogi yn yr Eidal gan niferoedd mawr o bobl ifanc y mae’r gerddoriaeth yn safiad yn erbyn globaleiddio ac yn fynegiad hyderus o’u diwylliant eu hun. 

Mae Eugenio Bennato yn ysbrydolwr, yn gatalydd ac yn fagned y mae cerddorion ifanc da yn casglu o’i gylch. Caiff ei gynorthwyo gan ei fand Taranta Power (sy’n cynnwys soddgrwth, ffidil, gitâr, oferynnau taro, lleisiau a dawnswyr), mae Bennato yn eistedd ar ganol y llwyfan tra bo anhrefn trefnus yn ffrwydro o’i gwmpas. Mae ei gariad a’i barch tuag at gerddoriaeth hynafol sydd wedi’i wreiddio yn y Canoldir yn cyd-fynd â golwg gyfoes a rhyngwladol sy’n cario’r gynulleidfa i ffwrdd gyda chyfuniad bwerus ffrwydrol.

Dim llai nag anhygoel, mae’n denu rhywun, yn brydferth, yn gadarnhad o fywyd ac yn rhywbeth i’w fwynhau’n fawr – yn llawn cyfoeth a phrydferthwch y pridd, rhythmau sy’n gyrru, cerddorion di-ail a cherddoriaeth fydd yn cydio! 

 

“The cadence of a delirious music.”

Libération (Maroc), février 2000

 

“Eugenio Bennato, protagonist of the Venice Carnival in concert in Piazza San Marco... women who cast modesty to the wind in a dance which is ancient and modern at the same time.”

Il mattino, March 2000

 

“Wild and wonderful Tarantella...the same audience as you would find at a rock concert.”

Sunday Herald Sun, March 2000 (Australia)

 

“The ancient power of the Taranta explodes: sounds that are so ancient and yet so fantastically modern return to light with an explosive violence. An ultramodern phenomenon…something to really rediscover. “

Il Roma, May 2000.

 

Ar Daith i:

 

Hydref 2005

 

12  Canolfan Gelfyddydau Taliesin Arts Centre, Abertawe 

14  Theatr Mwldan, Aberteifi                      

15  Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth   

16  Canolfan Gelfyddydau Wyeside Arts Centre, Llanfair ym Muallt

21  Pafiliwm Cydwladol Brenhinol, Llangollen

23  Galeri, Caernarfon  

Browse more shows tagged with:

Top