Back

Rojo (15)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN FILM SOCIETY 

Benjamin Naishtat | Argentina | Brazil | France

Netherlands | Germany | Belgium | Switzerland | 2019 | 109’

Mae Claudio yn gyfreithiwr canol oed sy’n arwain bywyd llewyrchus yng nghanol y 70au yn yr Ariannin, ychydig cyn y gwrthryfel. Un noson mae’n mynd i fwyty lle mae dieithryn yn ymosod arno ar lafar, mae eu dadl yn difrifoli, gyda chanlyniadau syfrdanol.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach daw ffrind i weld Claudio ynglyˆn â thyˆ gwag y mae ganddo ddiddordeb yn ei brynu. Daw’r ddau ddigwyddiad yn ôl i boenydio Claudio yn ddiweddarach gyda dyfodiad ditectif preifat o Chile sy’n benderfynol o leoli’r dieithryn sydd ar goll.

£7.70

Top