Back

Our Last Tango (12A)

German Kral | 2015 | Argentina | 84’

Stori ddogfennol am y cariad rhwng y ddau ddawnsiwr enwocaf yn hanes tango, wedi ei hadrodd ochr yn ochr â’r stori am eu cariad aruthrol tuag at ddawns. Cyfarfu María Nieves Rego (81) a Juan Carlos Copes (84) pan oeddent yn 14 ac 17, a buont yn dawnsio gyda’i gilydd am bron hanner canrif. Ar ôl blynyddoedd o orfoledd, casineb, gwahaniadau poenus ac aduniadau hapus, mae Juan a María yn rhannu’r cyfan. Ffilmiwyd coreograffi celfydd i gyd-fynd â chyfweliadau hunan-ymholiadol i greu siwrnai fythgofiadwy i galon y tango.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU

Top