Back

Heal The Living (12A)

Katell Quillévéré | France | Belgium | 2016 | 101’

Heal the Living yw’r drydedd ffilm gan y cyfarwyddwr Katell Quillévéré, ac mae’n amlygu ei gweledigaeth ddynol am gydgysylltiad dynion a gwyrth fregus bywyd. Mae tri bachgen yn eu harddegau, yn llawn gwefr bywyd, yn cwrdd cyn y wawr er mwyn mynd i syrffio. Ond erbyn diwedd y bore, mae un ohonynt mewn coma, yn dilyn damwain car trasig. Daw’r plot yn syth o unrhyw ddrama sy’n seiliedig ar ysbyty, ond mae dull gweithredu Quillévéré yn unigryw, ac yn y pendraw, mor rymus.

£7.30 (£5.50)

Top