Back

Faces Places (Visage Villages) (12A)

JR | Agnès Varda | 2017 | France | 92’

Mae’r gwneuthurwr ffilm Agnès Varda yn ymuno â’r artist gweledol JR wrth iddynt deithio o gwmpas cefn gwlad Ffrainc mewn fan ag ynddo bwth ffotograffau yn gwneud cysylltiadau ar hap a phortreadau enfawr, ac yna eu pastio ar ochr adeiladau. Yn wresog, yn ddoniol, ac weithiau’n drist, mae Varda’n croesawu serandipedd ac yn diferu swyn yn y ffilm ddogfen ddymunol, ddyneiddiol hon.

£7.50 (£5.70)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN

Top