Back

Theatr Genedlaethol Cymru: Merched Caerdydd / Nos Sadwrn O Hyd

MERCHED CAERDYDD

Gan Catrin Dafydd

Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?

NOS SADWRN O HYD 

Gan Roger Williams

Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.

£12 (£10)

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac OOMFF, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd

Mynediad i’r di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd

Mas Ar Y Maes Theatr Genedlaethol Cymru OOMFF Sibrwd
approx 2 hours 20 mins (including one interval)
Yn addas ar gyfer bawb sy’n 14+ oed

Browse more shows tagged with:

Top