Back

Ralph McTell

O GANLYNIAD I FATERION CYTUNDEBOL, YN ANFFODUS NI FYDD SMITH A BREWER BELLACH YN CEFNOGI RALPH MCTELL YN YSTOD RHAN GYMREIG EI DAITH BRESENNOL. 

Un o’r adroddwyr straeon gorau, mae Ralph McTell erbyn hyn yn dathlu mwy na 50 mlynedd o deithio. Yn adnabyddus am ei arddull gitâr penigamp, mae’n ysgrifennwr caneuon toreithiog a dawnus. Gydag arddull sy’n eich gwahodd i fyd unigryw, mae’n gwau naratif sy’n arwyddocaol ac yn deimladwy.

Cafodd Ralph ei ddébut ym 1968 gyda’r albwm ‘Eight Frames a Second’ ac ym 1974 enillodd ‘Streets of London’ Wobr Ivor Novello iddo.

Yn 2002 cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Oes mawreddog iddo yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.

£20

Browse more shows tagged with:

Top