Back

Phill Jupitus: Juplicity

COMEDI YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Ymunwch â’r comedïwr stand-up, y bardd, y perfformiwr byrfyfyr a’r cymeriad teledu Phill Jupitus am dros awr o straeon, chwerthin ac adloniant. Gwyliwch mewn pleser a/neu arswyd wrth i’r dyn doniol profiadol hwn procio chwerthin o anrhefn ei fywyd ef ei hun a’r byd ansicr sydd yn ei gwmpasu.   

THEMÂU A SEFYLLFAOEDD O NATUR OEDOLYN, OND WEDI EU CYFLWYNO MEWN MODD PLENTYNNAIDD.  

Yn addas i oedran 14+  

PERFFORMIAD YN YR IAITH SAESNEG    

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n Penwythnos o Gomedi 6-9 Gorffennaf

 

GWYBODAETH HANFODOL

Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd safle'r Castell ar agor o 4.30yp cyn sioeau comedi heno a bydd lluniaeth ar gael. Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i ddigwyddiad comedi gychwyn.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle. 

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Mae’r digwyddiadau hyn o dan do, ond dewch â dillad cynnes priodol gyda chi.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.  

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

  • Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)
  • Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol
  • Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)
  • Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

 

£14
No one knows or cares more about radio or can write about it with such wit, love and grace
Stephen Fry

Browse more shows tagged with:

Top