Back

Oran Bagraidh

Galloway oedd un o’r mannau olaf yn yr Alban lle cafodd yr iaith Frythoneg ei siarad. Hyd nes y 12fed ganrif, cafodd ei siarad ochr yn ochr â Gaeleg ac ieithoedd eraill yn un o’r ardaloedd mwyaf ieithyddol a diwylliannol amrywiol yn yr ynysoedd hyn.

Yn 2018, cafodd cantorion ac offerynwyr o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon eu gwahodd i gydweithredu er mwyn creu cerddoriaeth yn seiliedig ar eu hieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau priodol. Gweithredai’r gân hynafol Gaeleg o Galloway Oran Bagraidh - ‘Cân Herfeiddiad’, fel man cychwyn ar gyfer gwaith pellach sy'n archwilio'r elfennau  cyffredin a'r gwahaniaethau rhwng eu harddulliau cerddorol ac ieithoedd. Yn rhannol annealladwy i siaradwyr ieithoedd Celteg cyfoes, mae'r gân yn cynnwys Brythnoneg, Gaeleg ac enwau lleoedd cymysgiaith.

Mae’r gwaith yn cynnwys pum iaith, offerynnau canoloesol: y lyra a'r pibellau triphlyg Gogleddol yn ogystal â'r ffidil, telyn, acordion, chwiban, offerynnau taro, awtodelyn trydanol ac electroneg.  Mae'r cynulliad rhyfeddol o gerddorion cysylltiedig yn cynnwys: Josie Duncan (yr Hebrides), Lorcan Mac Mathuna (Iwerddon), Gwyneth Glyn (Cymru) MacGillivray (Yr Alban), Doimnic Mac Giolla Bhride (Iwerddon), Conor Caldwell (Gogledd Iwerddon), Barnaby Brown (Lloegr), Rody Gorman (Iwerddon/Yr Alban) a Bragod (Cymru).

£14 (£12)

Browse more shows tagged with:

Top