Back

Iolo Williams: Life Before the Lens

Bydd Iolo Williams yn sôn wrthym am ei brofiadau yn gweithio fel Swyddog Rhywogaethau i’r RSPB. O’r ffermwr a ddaliodd casglwr wyau dros glogwyn 40 troedfedd i’r cydweithiwr a gadwodd hanner pentref ar ddihun gyda’i chwyrnu, i’r bioden y môr a rwystrodd trên y Tywysog Siarl am ychydig, bydd Iolo yn sôn nid yn unig am fywyd gwyllt a’r bygythiadau mae’n ei wynebu, ond hefyd am rai o’r cymeriadau mawr y cyfarfu â nhw ar ei siwrnai. Yn addysgiadol, yn fewnweledol ac yn ddifyr, bydd y cyflwyniad hwn yn difyrru’r teulu cyfan.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top