Back

Illyria - The Pirates of Penzance

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Gan Gilbert & Sullivan 

Mae Frederick, bu’n brentis i’r Môr-ladron ers yn blentyn, yn cael ar ddeall ei fod wedi ei eni mewn blwyddyn naid ar 29ain o Chwefror, a’i fod dan gytundeb i Frenin y Môr-ladron hyd nes ei BEN-BLWYDD yn 21 oed, nid ei 21ain flwyddyn. Gyda dim ond heddlu di-glem Penzance i’w amddiffyn, sut bydd yn gwrthsefyll cael ei orfodi i oddef bywyd o drosedd hyn nes ei fod yn 84 mlwydd oed – ac a fydd ei gariad Mabel yn aros cyhyd amdano? Gyda melodrama doniol, dychan miniog a ffraethineb disglair, mae “The Pirates of Penzance” mor ffres a petasai wedi ei hysgrifennu heddiw.

Hefyd yn y Castell ar Awst 1 - Dathlwch Flwyddyn y Môr Croeso Cymru gyda dathliad Castell Aberteifi o bob dim morwrol. Bydd y Castell yn cynnal perfformiad un dyn theatraidd o Barti Ddu, bydd gwisg ffansi, llwybr trysor cyffrous y môr-ladron ac arddangosiad o sut i greu cwrwgl. Mae’n siŵr o weddu’n addas ar gyfer perfformiad Illyria o The Pirates of Penzance yn nes ymlaen y noson honno.

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£16 (£14) £11
GWYBODAETH HANFODOL Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes. Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.
GWYBODAETH TOCYNNAU Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn: Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio ga

Browse more shows tagged with:

Top