Back

Huw Stephens yn Cyflwyno / Presents... Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon + Support

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN / CASTELL ABERTEIFI

 

HUW STEPHENS YN CYFLWYNO / PRESENTS...
Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon +
Buzzard Buzzard Buzzard +
Adwaith +
Huw Stephens (DJ set)

Yn arwain y noson, cewch gyfle prin i weld Late Night Pop Dungeon Charlotte Church, set o ganeuon aml-arddull sy’n fersiynau ar y gwreiddiol, wedi eu perfformio gan fand cefnogi eang (a nodedig), gyda’r feistres Charlotte Church, yn arwain y cwbl gyda pherffeithrwydd.

Mae Pop Dungeons y gorffennol wedi cynnwys David Bowie, Britney Spears, Beyonce, Prince, En Vogue, Rage Against The Machine, Missy Elliott a Black Sabbath a’u tebyg i gyd wedi asio ynghyd i greu noson o fawredd pop deniadol tu hwnt; noson fydd yn gadael y gynulleidfa’n unedig, yn orfoleddus, ac wedi dawnsio hyd nes bod eu traed yn brifo! Yn ei geiriau hi ei hun, ‘It’s full of love; like a massive party with a really warm hug at the end’.

Yn ymuno â’r act arweiniol ar gyfer y noson, mae gennym nid un, ond dau o’r bandiau newydd gorau; Buzzard Buzzard Buzzard ac Adwaith.  Mae Buzzard Buzzard Buzzard yn fand pedwar aelod o Gaerdydd sy’n aml yn perfformio sioeau yn y ddinas lle gwerthwyd pob tocyn, ac sydd wedi teithio a denu adolygiadau hynod frwd o bob man maen nhw’n chwarae. Mae eu setiau yn wyllt ac yn egnïol, yn sianeli ysbrydion roc a rôl y gorffennol, ond yn cynnig golwg ffres ar y model roc clasurol. Tra’n gwisgo denim.Mae Adwaith yn fand ôl-pync arbrofol wedi ei ffurfio o 3 aelod hynod ddawnus o Gaerfyrddin. Mae James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers wedi ail-gymysgu eu gwaith, maen nhw wedi teithio gyda Joy Formidable a Gwenno, ac roedd eu halbwm début, Melyn, yn fawr ei glod gan y beirniaid. Yn go gyflym, maen nhw’n troi’r arwyr cwlt.

Ac ar ben hynny oll, bydd y dyn ei hun, Huw Stephens yn chwarae ychydig o'i hoff gerddoriaeth rhwng y bandiau.

£22.50 (£15 o dan 18 oed)

A cathartic cabaret of sequins, smash hits, and sweaty pits
The Skinny
The concept and execution border on genius
Manchester Evening News
Church has achieved the unlikely feat of making covers bands cool
Guardian
Well THAT’S fun to listen to!
Iggy Pop, 6Music
Adwaith win hands down as the coolest new band from Wales; they are new, fresh, young female musical talent, that’s why I’m so excited
Bethan Elfyn, BBC Radio Wales

Browse more shows tagged with:

Top