Back

Huw Stephens yn Cyflwyno / Presents

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Hyrwyddiad ar y cyd gan Theatr Mwldan | Castell Aberteifi

 

Drysau: 6.30pm

Serol Serol - 7.30pm - 8.15pm

Omaloma - 8.30 - 9.20pm

Gwenno - 9.45 - 10.45

 

Setiau DJ gan Huw Stephens rhwng actau byw.

Bydd DJ Huw Stephens (BBC Radio 1 a BBC Radio Cymru) yn cyflwyno noson anhygoel o gerddoriaeth o Gastell Aberteifi. Yn frwdfrydig am fandiau newydd a seiniau amgen, mae Huw yn adnabyddus am gefnogi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan gychwyn ei ŵyl gerddorol flynyddol ei hun, Sŵn yng Nghaerdydd a hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru led led y DU.

Daw Huw â chriw a ddewiswyd yn arbennig ganddo i’r Castell, gyda’r rhagorol Gwenno, enillydd Gwobr Cerddoriaeth Gymraeg a ffefryn ar 6Music yn arwain, gyda’r bandiau pop electronig Omaloma a Serol Serol yn cefnogi, yn ogystal â set DJ gan Huw ei hun. 

 

GWENNO

Mae Gwenno’r gantores-ysgrifennwr caneuon Cymreig yn arwain, yn dilyn rhyddhau ei halbwm diweddaraf Le Kov, “Mae’n ymwneud â gorfod derbyn a pharchu’r pethau bach sy’n ein gwahaniaethu i gyd yn ac am ddarganfod fod ein holl straeon yn rhannu’r un gwirionedd.”

Mae Le Kov yn dilyn ei halbwm Gymraeg mawr ei glod gan y beirniaid, sef Y Dydd Olaf (a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymraeg a’r Albwm Cymraeg Gorau yn Eisteddfod Genedlaethol 2015). Yn debyg i Y Dydd Olaf, mae’n ddatganiad eofn am bwysigrwydd gwarchod ieithoedd lleiafrifol. Caiff caneuon Le Kov eu canu’n gyfan gwbl yng Nghernyweg, ‘tad’ iaith Gwenno. Cafodd ei greu ynghyd â’i chydweithredwr hirdymor Rhys Edwards, gyda pheirianneg drymiau ychwanegol gan Gorwel Owen (Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals) a chymysgu a rhaglennu ychwanegol gan David Wrench.

Mae Le Kov sy’n golygu Lle’r Cof yn creu dogfen o iaith fyw, i archwilio ei hunaniaeth ei hun a phosibiliadau creadigol di-ben draw iaith sydd wedi bodoli ers 15 canrif.

 

OMALOMA

Prosiect 'space pop' George Amor a Llyr Pari o fynyddoedd Eryri. 

 

SEROL SEROL 

Dwy gyfnither o Ddyffryn Conwy yw Serol Serol. Maent wedi bod yn gweithio yn agos gyda George Amor a Llyr Pari o Omaloma i greu ‘Space Pop’ hydolys.

 

Yn addas i 12+, Cynghorir disgresiwn rhieni 

 

 

£16 (£12 Pobl o dan 18 oed)

GWYBODAETH HANFOFOL

Ni ddarperir unrhyw seddau yn y digwyddiad hwn, fodd bynnag bydd croeso i chi ddod â’ch seddau gwersylla chi eich hun. DS – cedwir yr ardal yn syth o flaen y llwyfan yn glir ar gyfer dawnsio.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell.

Bydd y brif act yn gorffen erbyn 11yh.

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Digwyddiad awyr agored yw hwn yn y bôn.

Dewch â dillad cynnes a gwisgwch esgidiau addas.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwydded hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Yn amodol ar argaeledd, cewch hefyd brynu tocynnau wrth y drws. Argymhellwn brynu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw. 

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU 

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

• Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)

• Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol

• Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)

• Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad. Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad. Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.

 

Browse more shows tagged with:

Top