Back

Gŵyl Fawr Aberteifi 2019: Eisteddfod

EISTEDDFOD

Bydd y cystadlaethau’n dechrau o ddifri yn y Theatr am 5.00yp ar y Nos Wener ac am 1yp ar y Dydd Sadwrn gyda sesiwn yr hwyr yn dechrau am 6yh. Bydd cystadlaethau nos Wener yn cynnwys canu, llefaru a dawnsio gyda Seremoni Cadeirio’r Bardd am 8yh. Bydd Dydd Sadwrn yn gyfle i fwynhau canu corawl ar ei gorau gyda nifer o gategorïau corawl yn cystadlu a Chôr yr Wˆyl yn cael ei ddewis ar nos Sadwrn. Daw’r cystadlu i ben gyda chystadleuaeth Y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed. 

DYDD GWENER MEHEFIN 28 5.00PM + DYDD SADWRN MEHEFIN 29  1.00PM

£6 (£3) PLANT DAN 16 OED

NOS SADWRN 29 MEHEFIN 6.00PM

£8 (£4) PLANT DAN 16 OED

TOCYN DYDD A NOS SADWRN £12

Browse more shows tagged with:

Top