Back

Daoirí Farrell

Caiff y cantor a’r chwaraewr bouzouki Daoirí (caiff ei ynganu fel Derry) Farrell ei ddisgrifio gan rai o enwau mwyaf yng ngherddoriaeth werin Iwerddon fel un o’r cantorion pwysicaf i ddod o Iwerddon yn y blynyddoedd diwethaf. Chwe mis ar ôl rhyddhau’r albwm ‘True Born Irishman’, enillodd Daoirí ddwy wobr glodfawr yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2017 ar gyfer y Newydd-ddyfodiad gorau, a’r Trac Traddodiadol Gorau a pherfformiodd yn y seremoni gwobrwyo yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain. Ers hynny, mae wedi teithio’r DU ddwywaith, ac wedi chwarae yng ngwyliau yn Awstralia, Canada, y DU, Gwlad Belg, Denmarc ymhlith eraill. Ym mis Chwefror 2018, teithiodd gyda’r Translatlantic Sessions i brif ganolfannau yn y DU. Mae’r dilyniant i ‘True Born Irishman’ allan yn yr hydref 2018.

£14 (£13) £3

Daoirí Farrell is growing into a force to be reckoned with on the Irish music scene
FolkRadio.co.uk
An album that could yet prove to be one of the most significant Irish releases of recent years.
Songlines

Browse more shows tagged with:

Top