Back

Cardigan Theatre: Duets

gan Peter Quilter

Archwiliad doniol tu hwnt o fyd anhrefnus cariad, perthnasau a pham nad oes bob amser ‘man gwyn man draw’. Mae Duets yn deyrnged hynod ddifyr i gryfder a ffolineb y galon ddynol.

Dyma i chi gomedi ddoniol iawn gan awdur sioe fawr Broadway, End of the Rainbow a’r llwyddiant West End Glorious!  Pedair set o gymeriadau, pedair moment hollbwysig. Mae Jonathon a Wendy ar ddêt dall ac yn gobeithio llwyddo’r tro hwn er nad ydynt wedi llwyddo erioed o’r blaen; nid oes gan Barrie wir ddiddordeb mewn menywod ond nid yw Janet yn gweld hynny fel unrhyw reswm i stopio ceisio; mae Shelley a Bobby wedi penderfynu mynd ar wyliau i Sbaen er mwyn dod â’u hysgariad i ben tra’n yfed coctels; mae Angela yn priodi am y trydydd gwaith er mawr siom Toby ei brawd ac ymysg llu o argoelion drwg a ffrog sy’n edrych fel parasiwt.

Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn o “Duets” drwy drefniant arbennig gyda Samuel French Ltd.

 £7.50

Browse more shows tagged with:

Top