Back

The Royal Ballet: Alice's Adventures In Wonderland

DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW O BALE BRENHINOL COVENT GARDEN LLUNDAIN

Mewn parti gardd ar bnawn heulog, mae Alice wedi ei syfrdanu i weld Lewis Carroll,ffrind ei rhieni, yn trawsffurfio’n gwningen wen. Mae’n ei ddilyn i dwll gwningod ac yno mae’r sefyllfa’n datblygu’n fwy ac yn fwy chwilfrydig. Wrth iddi deithio drwy Wonderland mae’n cwrdd â llu o gymeriadau rhyfeddol, gan gynnwys y Queen of Hearts a’r Mad Hatter. Ond nid yw’r bale’n osgoi elfennau mwy tywyll stori Carroll; y gegin hunllefus, y Cheshire Cat heb gorff. Mae’r canlyniad yn amlygu’r Bale Brenhinol ar ei orau, gan ddod â dawns o’r radd flaenaf ynghyd ag adloniant teuluol cyfareddol.

£16 (£15)
Amser rhedeg 2 awr 50 muned, yn cynnwys dwy egwyl

Browse more shows tagged with:

Top