Back

Roger Waters: Us + Them

Mae Roger Waters, y cyd-sylfaenydd, y grym creadigol a’r ysgrifennwr caneuon y tu ôl i Pink Floyd, yn cyflwyno ei ffilm, y bu disgwyl mawr amdani, Us + Them, sy’n cynnwys cynhyrchu gweledol o’r radd flaenaf a sain syfrdanol yn y digwyddiad sinema hanfodol hwn.

Wedi ei ffilmio yn Amsterdam ar ran Ewropeaidd ei daith 2017-2018 Us + Them lle bu Waters yn perfformio i dros ddwy filiwn o bobl yn fyd-eang, mae’r ffilm yn cynnwys caneuon o’i albymau Pink Floyd enwog (The Dark Side of the Moon, The Wall, Animals, Wish You Were Here) ac o’i albwm diweddaraf, Is This The Life We Really Want?

Mae Waters yn cydweithio unwaith eto gyda Sean Evans, cyfarwyddwr gweledigaethol y ffilm glodfawr, Roger Waters The Wall, er mwyn cyflwyno'r ffilm greadigol arloesol hon sy’n ein hysbrydoli gyda’i cherddoriaeth rymus a neges am hawliau dynol, rhyddid a chariad.

£13 (£12)

Browse more shows tagged with:

Top