Back

NT Live: Twelfth Night (12A tbc)

 

DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW MEWN DIFFINIAD UCHEL WEDI SGRINIO TRWY LOEREN O NATIONAL THEATRE, LLUNDAIN

Tamsin Greig yw Malvolia mewn tro newydd ar gomedi glasurol Shakespeare am gamadnabyddiaeth.

Caiff llong ei dryllio ar y creigiau. Caiff Viola ei golchi i’r lan ond mae ei gefaill Sebastian wedi ei golli. Yn benderfynol o oroesi ar ei phen ei hun, mae’n camu allan i archwilio gwlad newydd. A gyda hynny cychwynna corwynt o gamadnabyddiaeth a chariad nas dychwelir.

Mae’r cartrefi cyfagos, Olivia ac Orsino, yn llawn angerdd. Mae hyd yn oed Malvolia, gwraig cadw tŷ cyfiawn wedi ei chynnwys yn y gwiriondeb. Mewn man lle mai cerddoriaeth yw bwyd cariad, ac nid oes unrhyw un fel mae’n ymddangos, mae unrhyw beth yn bosibl.

Simon Godwin (NT Live: Man and Superman, NT Live: The Beaux’ Stratagem) sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad gorfoleddus hwn gyda Tamsin Greig (Friday Night Dinner, Black Books, Episodes) fel Malvolia wedi trawsffurfio. Cast ensemble sy’n cynnwys Daniel Rigby (Flowers, Jericho), Tamara Lawrence (Undercover), Doon Mackichan (Smack the Pony) a Daniel Ezra (The Missing, Undercover).

Bwyty Dros Dro - Bwydlen tri cwrs ar gael cyn y ddangosiad yma

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres o brydau gosod cyn sioeau penodol yn y Mwldan yn y misoedd nesaf. Bydd ‘The People Tree’, profiad bwyty sy’n cael ei redeg gan Emma a Sana, yn cynnig bwydlenni gosod tri chwrs cyn sioeau byw dethol a digwyddiadau darlledu.Bydd bwydlen tri chwrs sy’n cynnwys cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin yn £20, a bydd opsiynau i lysfwytawyr a feganiaid hefyd ar gael. 

Cliciwch yma am manylion pellach.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top