Back

NT Live: Follies

Caiff sioe gerdd enwog Stephen Sondheim ei llwyfannu am y tro cyntaf gan y National Theatre a’i darlledu’n fyw i sinemâu. Efrog Newydd, 1971. Mae ‘na barti ar lwyfan Theatr Weismann. Yfory, caiff yr adeilad eiconig ei ddymchwel. Trideg mlynedd ar ôl eu perfformiad olaf, mae’r merched Follies yn ymgasglu am ddiodydd, caneuon ac i raffu celwyddau amdanyn nhw eu hunain. Tracie Bennett, Janie Dee ac Imelda Staunton sy’n chwarae’r Follies aruthrol yn y cynhyrchiad newydd hwn a chanddo gast o 37 a cherddorfa o 21.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top