Back

The Northern Ballet: Victoria (U)

Tyfodd frenhinlin o gariad diatal y Frenhines Fictoria tuag at Albert, ond cafodd menyw fwyaf pwerus y byd ei llorio gan alar yn sgil ei farwolaeth annhymig. I ddathlu ei deucanmlwyddiant, daw’r Northern Ballet, yn enwog am ei waith naratif aruthrol, â stori syfrdanol Fictoria yn fyw drwy ddawns. Wedi ei coreograffu gan Cathy Marston, crëwr cynhyrchiad clodfawr Jane Eyre y Northern Ballet, gyda sgôr gwreiddiol gan Philip Feeney, mae’r cynhyrchiad newydd sylweddol hwn yn datgelu gwahanol wynebau un o freninesau mwyaf eiconig Prydain, wedi ei adrodd drwy lygaid Beatrice, ei phlentyn ifancaf a’i chydymaith gydol oes.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top