Met Opera: Madama Butterfly (Puccini)

BROADCAST EVENT

Dychwela llwyfaniad hynod sinematig Anthony Minghella o stori Puccini am gariad nas dychwelir at ein sgriniau gan serennu’r soprano Hui He yn y brif ran ddinistriol.

Un o operâu mwyaf poblogaidd ein cenhedlaeth, mae Madama Butterfly yn dilyn stori merch ifanc Japaneaidd, Cio-Cio San, sy’n syrthio mewn cariad â Pinkerton, swyddog llynges Americanaidd. Mae yna drasiedi yn y cynhyrchiad hwn, sy'n ffefryn byth a beunydd gan y gynulleidfa. Pier Giorgio Morandi sy’n arwain un o sgorau mwyaf cain a thorcalonnus byd opera. Ychwanega Plácido Domingo rôl arall at ei repertoire nodedig, yn canu Sharpless am y tro cyntaf ac  yn ymuno ag ef mae cast sydd hefyd yn cynnwys y tenor Piero Pretti fel Pinkerton, a’r fezzo-soprano Elizabeth DeShong fel Suzuki.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: