Back

Met Opera: Akhnaten

LIVE BROADCAST

Y seren a’r uwchdenor Anthony Roth Costanzo sy’n arwain fel y Ffaro chwyldroadol a drawsnewidiodd yr hen Aifft.

Dychwela’r cyfarwyddwr Phelim McDermott, y mae ei gynyrchiadau yn cynnwys yr hynod lwyddiannus Satyagraha gan Philip Glass, i’r Met i ddod a’r cynhyrchiad cyfoes hwn yn fyw, gyda chwmni penigamp a llwyfaniad dramatig sy’n cynnwys acrobatiaid a jyglo.

Mae’r soprano drawiadol J’Nai Bridges yn gwneud ei début gyda’r Met fel Nefertiti gyda Karen Kamensek yn arwain sgôr defodol a chyfareddol Glass.

 

Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….

"Yn olaf, yn y tymor hwn o operâu, mae gennym gynhyrchiad y Met o opera “Akhnaten” Philip Glass, stori'r ffaro a chwyldrodd yr Aifft gyda'i gyflwyniad o undduwiaeth. Addoliad un Duw yn unig - yr haul. Mae gan acrobatiaid a jyglwyr eu lle yn yr opera hon a chawn ein cyflwyno i'r Tutankhamun ifanc. Mae'r stori garu olaf yn troi o gwmpas Akhnaten a'i wraig Nefertiti. Opera fodern ogoneddus yw hon am wareiddiad hynafol iawn i'n harwain tuag at dymor mwy modern y Nadolig."

Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 5.25yh.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top