Back

Laura Edmunds mouth

Mae mouth yn archwilio anadl, llais dynol a’r geg fel rhan o borth rhwng un lle a’r llall. Mae Laura Edmunds wedi gweithio gydag aelodau Côr Threshold Gorllewin Cymru, côr sy’n arbenigo mewn canu i bobl sydd ar fin marw ac arnynt angen cysur, i greu seinwedd yn archwilio’r themâu hynny. Mae seinwedd wedi ei ffurfio o weadau, uchderau a dwyseddau llais yn archwilio’r geg fel y man trothwyol rhwng y tu allan a’r tu fewn, rhwng “fi” ac “allan yno”. Mae mouth yn synfyfyrdod galarus: yn ddefodol a gydag isleisiau ysbrydol, ond yn galw ar rywbeth aneglur. Yn cydbwyso’n simsan rhwng cael ei deimlo ond heb ei ddal - synnwyr o undod drwy lais, yn symud y tu hwnt i ni’n hunain, o osmosis lleisiol. Cefnogir mouth gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Digwyddiad agoriadol gyda pherfformiad gan yr artist Isobel Adderley – Dydd Sadwrn 13 o Hydref am 2pm

Gweithdy galw heibio Drawing Sound Dydd Sadwrn 27 o Hydref 11 - 3pm

Am ddim

Browse more shows tagged with:

Top