Back

Amy Sterly: The Sound of Reading @ oriel mwldan

Ar hyn o bryd mae Amy Sterly yn archwilio byd llyfrau a darllen; yr hyn mae’n golygu i symud i ffwrdd o’r eitemau hardd a chorfforol hynny, o’r harddwch gweledol i’r seiniau, aroglau a’r gweadau colledig: “Mae natur gyffyrddol llyfrau  yn creu ymateb synhwyraidd sy’n rhagori ar ymatebion cywerthoedd digidol.”

Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys gosodwaith sy’n ystyried y syniadau hyn, ynghyd â chyfres o brintiau a pherfformiad o’r ‘Sound Book Project’ yn y digwyddiad agoriadol.

Digwyddiad agoriadol 16.00 ar ddydd Sadwrn 30 Ionawr, ymunwch â ni ar gyfer perfformiad rhad ac am ddim - croeso i bawb!

www.axisweb.org/p/amysterly/       #soundofreading

 

Browse more shows tagged with:

Top