Lion (PG)

Garth Davis, Australia / UK / USA, 2016, 120’

Wedi ei addasu o’r stori ryfeddol wir ‘A Long Way Home’ gan Saroo Brierley. Mae Lion yn ffilm am fachgen pum mlwydd oed o India, sydd, ar ôl i drên ei gludo miloedd o filltiroedd i ffwrdd o’i gartref a’i deulu, yn goroesi nifer o heriau cyn cael ei fabwysiadu gan bâr o Awstralia. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’n dysgu am dechnoleg newydd o’r enw Google Earth ac yn mynd ati i ddarganfod ei deulu colledig. Yn serennu Dev Patel a Nicole Kidman.

DDANGOSIADAU GYDA ISDEITLAU:

Dydd Llun 6 Chwefror @ 8.10yh

Dydd Llun 3 Ebrill @ 8.30yh

£7.10 (£5.40)

Browse more shows tagged with: