Coco (PG)

Lee Unkrich | Adrian Molina | 2017 | USA | 105’

Mae’r animeiddiad teuluol newydd hwn gan Pixar/Disney yn rhywbeth werth edrych ymlaen ato! Er gwaethaf gwaharddiad ei deulu ar gerddoriaeth ers canrifoedd lawer, mae Miguel yn breuddwydio am fod yn gerddor dawnus fel ei arwr, Ernesto la Cruz. Yn benderfynol o brofi ei dalent, mae Miguel yn cyrraedd y lliwgar a syfrdanol Land of the Dead yn dilyn cyfres ryfedd o ddigwyddiadau. Ar hyd y ffordd, mae’n cwrdd â thwyllwr dymunol, sef Hector, a gyda’i gilydd, mae’r ddau’n cychwyn ar siwrnai hynod i ddarganfod y gwirionedd y tu ôl i hanes teuluol Miguel.

DANGOSIADAU HAMDDENOL: DYDD SADWRN 20 IONAWR @ 11.55yb
BYDD SAIN DDISGRIFIO A SAIN ATGYFNERTHU AR GAEL YN Y FFILM HON