Back

Rhaglen Oriel Mwldan

Mae Oriel Mwldan yn fan arddangos cyfoes o ansawdd uchel wedi ei lleoli yn Aberteifi ar arfordir Gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd mae’r oriel wedi ei rhaglennu ar y cyd â’n partneriaid ar gyfer y celfyddydau gweledol, Oriel Davies Gallery, y Drenewydd, a chaiff ei hystyried yn hanfodol bwysig gan gyflwyno rhaglen o gelfyddydau gweledol cyfoes o ansawdd uchel i’r ardal leol.  Ein nod yw gwella ar strwythur y celfyddydau gweledol yng Ngorllewin Cymru gan gyflwyno rhaglen ysbrydoledig a heriol, sy’n manteisio artistiaid lleol, grwpiau cymunedol a myfyrwyr lleol. Fel rhan o’n rhaglen celfyddydau gweledol cyfredol byddwn yn gweithio gydag artistiaid sy’n arddangos i gyflwyno gweithdai proffesiynol am ddim i fyfyrwyr o ysgolion a cholegau lleol.


Mae ein horiel wedi ei chyfarparu i dderbyn arddangosfeydd teithiol a gwaith penodol i’r fan a’r lle o bwysigrwydd cenedlaethol. Rydym ar hyn o bryd yn curadu wyth arddangosfa’r flwyddyn ar draws ystod o gyfryngau gyda phob un yn rhedeg am tua 6 wythnos gan eithrio ein sioe haf sy’n arddangos am gyfnod llai. Anelwn at gyflwyno arddangosfeydd gan artistiaid sy’n gysylltiedig â Chymru.

Cliciwch yma i weld ein rhaglen gyfredol o arddangosfeydd.
Cliciwch yma i weld ein rhaglen o arddangosfeydd blaenorol.

 

Top
R